Arbenigedd Hollingsworth
Mae ein peirianwyr sifil wrth galon amrywiaeth eang o brosiectau strategol sy’n cynnwys adfywio trefi, cludiant, ynni, gwastraff, parciau diwydiannol a datblygiadau masnachol, tai, manwerthu a hamdden.
- Ffyrdd a draeniad, ffosydd a meysydd parcio
- Gwrthgloddiau a gwaith cloddio mawr
- Strwythurau concrit wedi’u hatgyfnerthu
- Deunyddiau wedi eu hailbrosesu ar y safle
- Sylfeini
- Cyflenwyr deunyddiau adeiladu
- Gwaith cynnal a chadw, yn adweithiol ac wedi’i gynllunio
- Tirlunio ac amgylcheddol
Mae Hollingsworth Bros yn rhoi mantais fasnachol i gleientiaid ar bob cam o brosiect gydag atebion strwythurol integredig o’r gwerth gorau. Rydym yn cynllunio, dylunio, caffael a rheoli prosiectau ar ran cleientiaid sector preifat a sector cyhoeddus fel ei gilydd.