Hollingsworth Group | Astudiaethau Achos
Mae’r Hollingsworth Group yn sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae’n cynnwys pedwar cwmni arbenigol, a phob un o’r rheiny wedi eu gyrru gan unigolion sydd â môr o brofiad yn eu meysydd perthnasol.
Astudiaethau Achos Hollingsworth Bros

TIP LANE/FFORDD ISA | PRESTATYN, SIR DDINBYCH
Prif nod y prosiect yma oedd gosod ffordd newydd yn lle’r ffordd/llwybr tarmac un lôn oedd yno ar y pryd. Darllen mwy

278 WORKS | PARC SIOPA Penrhos
Prif nod y prosiect yma oedd darparu ffordd fynediad newydd a gwell at yr Archfarchnad Morrisons newydd oedd yn mynd i gael ei hadeiladu, Darllen mwy

ELECTROIMPACT, PLINTHIAU PORT A STARBORD | AUK, BROUGHTON
Roedd AUK yn adeiladu cyfleuster adeiladu adenydd newydd ar y safle hwn ym Mrychdyn, ac roeddent angen plinthiau i hwyluso rhan o’r broses. Darllen mwy

Y FFATRI OGLEDDOL FFYRDD RHODFA | AUK, BROUGHTON
Roedd y prosiect yn gofyn ailadeiladu’r Ffordd Rodfa bresennol i greu ffordd a fyddai’n gallu darparu’n rhannol ar gyfer y llwythwr adenydd A350 XWB newydd sy’n pwyso 100 o dunelli. Darllen mwy

GORSAF BWMPIO RHIF 2 | AUK, BROUGHTON
Penderfynwyd bod ar arllwysfa Safle 2 AUK angen Gorsaf Bwmpio Dŵr Storm i reoli llifau o hyd at 500 litr yr eiliad. Darllen mwy

GOSOD ARWYNEB AR ATREDFA CHARLIE | AUK, BROUGHTON
Y Cefndir: Adeiladwyd Atredfa Charlie yn yr 1940au ac mae’n cael ei ddefnyddio heddiw i gyrraedd yr awyrendai o’r llwybrau glanio gerllaw. Darllen mwy
Astudiaethau Achos Hollingsworth Ellery

FFERM DANWYDD NEWYDD I WASANAETHU MAES AWYR PENARLÂG
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i ddarparu Fferm danwydd newydd am fod y cyfleuster blaenorol wedi symud i leoliad arall pan ddaeth Gorsaf Llinell Beluga newydd i AUK. Darllen mwy

Adeilad 53 | AUK
Roedd y prosiect cymhleth yma’n cynnwys troi’r hen dŷ boeler yn gyfleuster swyddfa fodern i gynnwys adran adnoddau safle AUK. Chwalwyd adeiladau’r hen dŷ boeler yn ystod y cynllun. Roedd pobl wedi galw’r rhain yn ddolur llygad yn y gorffennol i unrhyw un fyddai’n eu gweld o Ffordd Gaer. Roedd camau graddol y prosiect yn sicrhau bod modd symud defnyddwyr y cyfleusterau i rywle newydd drwy gydol yr amrywiol gamau adeiladu a chwalu. Darllen mwy

GREAT BEAR NOTTINGHAM & SHEFFIELD
Dewiswyd Hollingsworth Group i uwchraddio cyfleusterau newydd eu caffael yn ardaloedd Sheffield a Nottingham ar yr un pryd Darllen mwy

JR WEBSTER
Mae J R Webster yn gwmni arbenigol a hirsefydlog sy’n cyflenwi offer, addurniadau a chyfarpar diogelwch personol i fyd diwydiant. Roeddent angen warws newydd ac allfa werthu yn Lerpwl ac roeddent wedi llwyddo i gael safle mewn lleoliad amlwg yn agos i ganol y ddinas. Yna cawsent ganiatâd cynllunio ar y safle ar gyfer eu huned newydd. Darllen mwy

HENROB
Yn rhan o’u strategaeth fusnes a’u cynlluniau ehangu ar gyfer y dyfodol, prynodd Henrob uned ddiwydiannol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Eu bwriad oedd creu cyfleuster gweithgynhyrchu newydd hollol fodern yn yr adeilad ynghyd â swyddfeydd, labordai, ffreutur a gweithdai cysylltiedig. Darllen mwy

MYNEDFA COPSE LANE
Dewiswyd yr Hollingsworth Group i ddarparu mynedfa newydd i AUK Brychdyn. Materion allweddol i dderbyn sylw oedd y rhyngwynebau wrth ffurfio’r ddolen gyda Ffordd Gaer ac wrth weithio o amgylch mynedfa gyfredol Ffatri’r Gogledd Darllen mwy

CYFLEUSTER CYNHYRCHU AWYRENDY 251| AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery gan AUK i ddarparu cyfleuster cynhyrchu ar frys ar gyfer cyweirio adenydd. Darllen mwy

CYFLEUSTER HYFFORDDI CYFANSAWDD| AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i wneud y gwaith gosod mewnol yn gyfatebol â manyleb lefel uchel mewn uned ddiwydiannol oedd yno’n barod Darllen mwy

TOILEDAU’R WAL DDWYREINIOL| AUK, BROUGHTON
Y prosiect yma oedd y cyntaf mewn rhaglen dreigl gan AUK i ddiweddaru’r cyfleusterau amwynder. O ganlyniad, roedd yn rhaid dewis manyleb yn ofalus i sicrhau bod y cyfleuster yn addas i’w bwrpas ac yn sefydlu safon a fyddai’n feincnod ar gyfer y safle cyfan. Darllen mwy

ADNEWYDDU A RHOI ESTYNIAD AR AWYRENDY 75 | AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i wneud y gwaith adnewyddu ac i roi estyniad ar yr awyrendy Pentad yma a adeiladwyd cyn y rhyfel. Darllen mwy

ADNEWYDDU JIG AMREDIAD PELL| AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i wneud y gwaith adnewyddu ar bum jig amrediad pell sy’n cynhyrchu’r adenydd ar gyfer yr awyren A340; un o gonglfeini’r busnes. Darllen mwy

DERBYNFA NEWYDD AUK I YMWELWYR | AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i drafod syniadau ynglŷn â sut i droi adeilad yn dderbynfa newydd i ymwelwyr. Darllen mwy

ADNEWYDDU OSS| AUK, BROUGHTON
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i wneud adnewyddiad sensitif ar y man swyddfa byw yma yn AUK. Darllen mwy

AILFODELU DERBYNFA| RFD BEAUFORT, BIRKENHEAD
Y prosiect yma oedd canolbwynt gwaith uwchraddio mawr ar safle RFD Beaufort ym Mhenbedw. Nid oedd y brif dderbynfa flaenorol yn drawiadol iawn i’r ymwelwyr hynny a fyddai’n dod yma o Brydain a gwledydd eraill y byd. Ynghyd â phenseiri KKA roedd yr isod i gael ei weddnewid. Darllen mwy

GOSOD WYNEB AR FFYRDD Y SAFLE | GM MOTORS, ELLESMERE PORT
Dewiswyd Hollingsworth Ellery i wneud diweddariadau hanfodol i isadeiledd safle GM Motors (Vauxhall), ei ffyrdd mynediad allanol a’r mannau parcio. Darllen mwy

GREAT BEAR LINK 56 – SMART STAGE | SANDYCROFT
Dewiswyd yr Hollingsworth Group i addasu man derbyn nwyddau wrth gefn y warws dosbarthu yma. Darllen mwy