Swydd Wag i Uwch Syrfëwr
04/11/2015
Dyma’r cyfrifoldebau’n fras:
- Paratoi dogfennau tendro a chontract, yn cynnwys biliau niferoedd;
- Rhoi amcan o brisiau a dyfynbrisiau;
- Paratoi adroddiadau cysoni gwerth a chostau’n fisol;
- Gwneud gwaith rheoli risgiau, gwerth a chostau;
- Cynghori am y strategaeth gaffael;
- Adnabod, dadansoddi a datblygu ymatebion i risgiau masnachol;
- Paratoi a dadansoddi costau ar gyfer tendrau;
- Dyrannu gwaith i is-gontractwyr;
- Darparu cyngor am hawliau cytundebol;
- Dadansoddi canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau manwl am gynnydd;
- Rhoi gwerth i’r gwaith cyflawn a threfnu taliadau;
- Cadw’n ymwybodol o’r gwahanol gontractau adeiladu sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd;
- Deall goblygiadau rheoliadau iechyd a diogelwch;
- Goruchwylio a mentora staff tirfesur eraill;
- Cysylltu a thrafod gyda chleientiaid.
Nodweddion Personol
Fel Syrfëwr Meintiau, bydd angen i’r ymgeisydd fod â:
- Sgiliau cyfathrebu gwych
- Sgiliau trafod
- Medrusrwydd gyda ffigurau a’r gallu i reoli cyllideb
- Meddwl dadansoddol
- Sgiliau TG
- Sgiliau gweithio mewn tîm
- Y gallu i flaenoriaethu tasgau a rheoli eich amser i gyflawni gwaith o fewn yr amser gofynnol
Dylai’r ymgeisydd:
- Allu adeiladu perthynas dda gyda phobl o bob math
- Fod yn berswadiol
- Fod yn barod i wneud penderfyniadau a chymryd y cyfrifoldeb amdanynt
- Fod yn drefnus, yn frwdfrydig a gallu dibynnu arno / arni ei hun
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl yma anfonwch eich CV at yr Hollingsworth Group, St Ives Way, Engineer Park, Sandycroft, Sir y Fflint, CH5 2QS neu anfonwch ebost at [email protected], gan gynnwys CV cyfredol.