Hollingsworth Ellery yn ennill gwobr Aur AUK am ddiogelwch y safle

12/07/2016

Roedd yn rhaid i’r tîm yn Hollingsworth Ellery gadw at bolisïau iechyd a diogelwch tynn ochr yn ochr â thîm AUK. Am hyn mae Hollingsworth Ellery wedi derbyn ‘Gwobr Diogelwch Aur’ AUK. Mae Hollingsworth Ellery wedi cyrraedd y safonau diogelwch uchaf yn gyson wrth ddarparu gwasanaethau yn AUK, Canolfan Rhagoriaeth Brychdyn.

Swydd Wag i Uwch Syrfëwr

04/11/2015

Dyma’r cyfrifoldebau’n fras: Paratoi dogfennau tendro a chontract, yn cynnwys biliau niferoedd; Rhoi amcan o brisiau a dyfynbrisiau; Paratoi adroddiadau cysoni gwerth a chostau’n fisol; Gwneud gwaith rheoli risgiau, gwerth a chostau; Cynghori am y strategaeth gaffael; Adnabod, dadansoddi a datblygu ymatebion i risgiau masnachol; Paratoi a dadansoddi costau ar gyfer tendrau; Dyrannu gwaith i… »

Swydd Wag i Brynwr / Rheolwr Caffael

21/01/2015

Bydd yr Ymgeisydd yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer prosiectau’n cael eu darparu ar yr amser cywir yn unol â’r rhaglen a’r cyllidebau a ragwelir, gan roi adborth i’r rheolwyr ynglŷn ag amser darparu’r archeb. Bydd gan yr ymgeisydd ran hanfodol i’w chwarae mewn helpu i sicrhau bod contractau’n broffidiol… »

Gwobrau am Ragoriaeth mewn Adeiladu gan LABC GOGLEDD CYMRU 2014- Enwebiad i’r Hollingsworth Group

17/01/2015

Mae’n destun balchder gan yr Hollingsworth Group ei fod wedi derbyn enwebiad am yr Adeilad Masnachol bach Gorau, am brosiect Adeilad 53 yn AUK, Brychdyn. Mae’r enwebiad yma’n cydnabod ymhellach y bartneriaeth gref sydd gan yr Hollingsworth Group ac AUK. Mae’r Gwobrau am Ragoriaeth mewn Adeiladu’n ymwneud â hanfod adeiladau da. Nid yw’r adeiladau sy’n… »